Lleoliad y cyfarfod:
Y Siambr - Y Senedd
Dyddiad y
cyfarfod:
Dydd Mercher,
15 Mehefin 2022
Amser y
cyfarfod: 13.30
------
Cynhelir y cyfarfod hwn ar ffurf hybrid, gyda rhai Aelodau yn Siambr y Senedd ac eraill yn ymuno drwy gyswllt fideo.
Mae'r Llywydd wedi penderfynu y bydd Aelodau, yn unol â Rheol Sefydlog 34.14A-D, yn gallu pleidleisio o unrhyw leoliad drwy ddull electronig.
1 Cwestiynau i Weinidog yr Economi
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
2 Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
(45 munud)
Bydd y Llywydd yn galw ar lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau heb rybudd ar ôl Cwestiwn 2.
3 Cwestiynau Amserol
(20 munud)
Gofyn i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Carolyn Thomas (Gogledd Cymru): A wnaiff y Gweinidog ddatganiad am gyhoeddi dyfodol yr hediadau rhwymedigaeth gwasanaeth cyhoeddus rhwng Caerdydd ac Ynys Môn?
Gofyn i’r Gweinidog Newid Hinsawdd
Natasha Asghar (Dwyrain De Cymru): Pa drafodaethau y mae'r Gweinidog wedi'u cael gyda gweithredwyr rheilffyrdd ynghylch y posibilrwydd o darfu ar wasanaethau rheilffyrdd oherwydd cyngherddau Stereophonics a Tom Jones yng Nghaerdydd y penwythnos hwn?
4 Datganiadau 90 Eiliad
(5 munud)
5 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith - Adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru
(30 munud)
NDM8024 Llyr Gruffydd (Gogledd Cymru)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Seilwaith: ‘Adroddiad ar orlifoedd stormydd yng Nghymru’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 15 Mawrth 2022.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mehefin 2022.
6 Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol - Craffu blynyddol ar waith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol: Y wybodaeth ddiweddaraf
(60 munud)
NDM8025 Jenny Rathbone (Canol Caerdydd)
Cynnig bod y Senedd:
Yn nodi adroddiad y Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol ‘Craffu blynyddol ar waith Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol: Y wybodaeth ddiweddaraf’, a osodwyd yn y Swyddfa Gyflwyno ar 11 Ebrill 2022.
Noder: Gosodwyd ymateb Llywodraeth Cymru i'r adroddiad yn y Swyddfa Gyflwyno ar 8 Mehefin 2022.
7 Dadl Plaid Cymru - Strategaeth hydrogen
(60 munud)
NDM8027 Sian Gwenllian (Arfon)
Cynnig bod y Senedd:
1. Yn nodi:
a) pwysigrwydd datblygu'r broses o gynhyrchu hydrogen gwyrdd i helpu i ryddhau potensial Cymru o ran ynni adnewyddadwy i ddatgarboneiddio ynni, helpu i ddisodli tanwydd ffosil a helpu i ddarparu ateb hirdymor i'r argyfwng costau byw;
b) y gall datblygu'r sector hydrogen helpu i drawsnewid economi gylchol a sylfaenol Cymru yn unol â'r agenda lleoleiddio.
2. Yn galw ar Lywodraeth Cymru i:
a) lunio strategaeth hydrogen i Gymru gyda'r nod o fod ymhlith y gwledydd sydd ar flaen y gad o ran datblygu'r sector newydd hwn;
b) sicrhau bod rheolaeth a pherchnogaeth Cymru o'r sector newydd hwn yn cael eu rheoli i'r eithaf fel rhan o'i strategaeth.
Cyflwynwyd y gwelliant a ganlyn:
Gwelliant 1 Darren Millar (Gorllewin Clwyd)
Ychwanegu is-bwynt newydd ar ddiwedd pwynt 2:
darparu treial cymdogaeth hydrogen erbyn 2023, ac yna treial pentref hydrogen mawr erbyn 2025, ac o bosibl cynllun peilot tref hydrogen cyn diwedd y degawd.
8 Cyfnod Pleidleisio
9 Dadl Fer
(30 munud)
NDM8026 Rhianon Passmore (Islwyn)
Adfywiad diwylliannol Cymreig ar ôl COVID? Y cynllun ar gyfer cerddoriaeth a mynediad i bawb
Cynhelir Cyfarfod Llawn nesaf y Senedd am 13.30, Dydd Mawrth, 21 Mehefin 2022